9. Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan baragraff 15,
(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono, neu
(c)pan fydd P yn dod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.