YR ATODLENNI
ATODLEN 5Benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge
Benthyciadau at ffioedd colegau OxbridgeI11
1
Mae benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr Oxbridge cymwys ar gyfer talu ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig.
2
Ystyr “ffioedd coleg” yw’r ffioedd sy’n daladwy gan fyfyriwr Oxbridge cymwys i un o golegau neu neuaddau preifat parhaol Prifysgol Rhydychen, neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt, mewn cysylltiad â myfyriwr yn ymgymryd â chwrs Oxbridge dynodedig.
Cyrsiau Oxbridge dynodedigI22
Mae cwrs yn gwrs Oxbridge dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—
Amod 1
Mae’r cwrs yn gwrs dynodedig (gweler Pennod 1 o Ran 4).
Amod 2
Mae’n gwrs llawnamser.
Amod 3
Mae wedi ei ddarparu gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt.
Amod 4
Mae’r cwrs naill ai—
a
yn arwain at gymhwyso yn—
i
gweithiwr cymdeithasol,
ii
meddyg,
iii
deintydd,
iv
milfeddyg, neu
v
pensaer, neu
b
yn gwrs pan fo o leiaf un flwyddyn academaidd yn un y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn gymwys mewn perthynas â hi i wneud cais am—
i
bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban,
ar yr amod bod y bwrsari neu’r dyfarndal tebyg neu’r lwfans wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Amod 5
Nid yw’r cwrs yn gwrs dysgu o bell (ond gweler paragraff 3(4)).
Myfyrwyr Oxbridge cymwysI33
1
Mae person (“P”) yn fyfyriwr Oxbridge cymwys—
a
os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn is-baragraff (2), a
b
os nad yw’n dod o fewn yr eithriad yn is-baragraff (3).
2
Yr amodau yw—
Amod 1
Mae P yn fyfyriwr cymwys (gweler Adran 1 o Bennod 2 o Ran 4).
Amod 2
Mae gan P radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.
Amod 3
Mae P yn ymgymryd â chwrs Oxbridge dynodedig.
Amod 4
Mae P yn aelod—
a
o un o golegau neu neuaddau preifat parhaol Prifysgol Rhydychen, neu
b
o un o golegau Prifysgol Caergrawnt.
Amod 5
Mae P o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs Oxbridge dynodedig.
3
Yr eithriad yw bod P yn preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
4
Er gwaethaf Amod 5 o baragraff 2, mae P yn fyfyriwr Oxbridge cymwys—
a
os oes ganddo anabledd,
b
os yw’n ymgymryd â chwrs Oxbridge dynodedig yn y Deyrnas Unedig,
c
os nad yw’n bresennol ar y cwrs oherwydd ei anabledd, a
d
os yw fel arall yn bodloni’r meini prawf a nodir yn is-baragraff (1).
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddI44
1
Pan fo myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys am fod un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraff (2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn unol â’r Atodlen hon mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod i’r digwyddiad ddigwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd.
2
Y digwyddiadau yw—
F6a
bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;
F2aa
bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
b
bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
c
bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn UE F4neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu ;
F5d
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;
e
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
f
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
g
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
3
Yn is-baragraff (2) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“aelod o deulu”(“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2); (within the meaning given by paragraph 6(5) of Schedule 2);
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent worker”);
F3“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”;
F1“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);
“plentyn” (“child”);
F7“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);
“rhiant” (“parent”).
Cyfnod cymhwystraI55
1
Mae benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge ar gael mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd safonol o’r cwrs Oxbridge dynodedig ac mewn cysylltiad ag un flwyddyn academaidd o’r cwrs nad yw’n flwyddyn academaidd safonol.
2
Pan ganiateir i fyfyriwr Oxbridge cymwys astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs Oxbridge dynodedig dros ddwy flwyddyn academaidd neu ragor, at ddiben penderfynu a yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge ar gyfer y blynyddoedd hynny, mae’r gyntaf o’r blynyddoedd hynny o astudio i’w thrin yn flwyddyn academaidd safonol ac mae’r blynyddoedd canlynol o’r math hwnnw i’w trin yn flynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.
3
Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn academaidd safonol” yw blwyddyn academaidd o’r cwrs Oxbridge dynodedig y byddai person nad yw’n ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs ac sy’n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt ag y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn ymgymryd â hi.
Swm y benthyciad at ffioedd colegauI66
1
Ni chaniateir i swm benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig fod yn fwy na’r swm sy’n hafal i’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan y myfyriwr Oxbridge cymwys i’w goleg neu i’w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
2
Pan fo myfyriwr Oxbridge cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael.
TrosglwyddoI77
1
Pan fo myfyriwr Oxbridge cymwys yn trosglwyddo o un cwrs Oxbridge dynodedig i un arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr Oxbridge cymwys i’r cwrs arall—
a
os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny; a
b
os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.
2
Os yw’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ond ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge, mae’r swm y gwneir cais amdano i’w dalu i’r coleg perthnasol neu’r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn cysylltiad â’r cwrs Oxbridge dynodedig y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo (oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys).
3
Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y myfyriwr Oxbridge cymwys wneud cais i gael benthyciad arall at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.
4
Os yw myfyriwr Oxbridge cymwys yn trosglwyddo ar ôl i’r benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff y myfyriwr wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs Oxbridge dynodedig y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo.
TaluI88
1
Rhaid i Weinidogion Cymru dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge y mae myfyriwr Oxbridge cymwys yn cymhwyso i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud taliad iddo neu iddi.
2
Rhaid talu’r benthyciad mewn un cyfandaliad.
3
Ni chaiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad—
a
cyn iddynt gael oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol—
i
cais ysgrifenedig am daliad, a
ii
cadarnhad o bresenoldeb ar y ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru, a
b
cyn bod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad yn ymwneud â hi wedi dod i ben.
4
Caiff Gweinidogion Cymru dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge heb gael cadarnhad o bresenoldeb os ydynt yn meddwl y byddai’n briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.
5
Yn y paragraff hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” yw cadarnhad fel y cyfeirir ato yn rheoliad 87(1).
6
Ni chaniateir i Weinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig—
a
os yw’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau â diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben, a
b
os yw’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd.
7
Mae paragraffau 9 a 10 yn nodi amgylchiadau eraill pan na chaniateir i daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge gael ei wneud neu pan ganiateir iddo gael ei gadw’n ôl.
Gofyniad i ddarparu rhif yswiriant gwladolI99
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge fod yn rhaid i fyfyriwr Oxbridge cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
2
Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr Oxbridge cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
Gofynion gwybodaeth a chytundebau ar gyfer ad-daluI1010
1
Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol ganddynt at ddibenion—
a
penderfynu ar gymhwystra i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge, neu
b
adennill benthyciad.
2
Caniateir i gais o dan is-baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am gael gweld—
a
ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,
b
ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu
c
ei dystysgrif geni.
3
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan is-baragraff (1), cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n rhoi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i fyfyriwr Oxbridge cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge drwy ddull penodol.
5
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.
GordaluI1111
Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol.