YR ATODLENNI

ATODLEN 5Benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge

Gofynion gwybodaeth a chytundebau ar gyfer ad-dalu10

1

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol ganddynt at ddibenion—

a

penderfynu ar gymhwystra i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge, neu

b

adennill benthyciad.

2

Caniateir i gais o dan is-baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am gael gweld—

a

ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,

b

ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu

c

ei dystysgrif geni.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan is-baragraff (1), cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n rhoi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i fyfyriwr Oxbridge cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge drwy ddull penodol.

5

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.