Cyrsiau Oxbridge dynodedigLL+C
2. Mae cwrs yn gwrs Oxbridge dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—
Amod 1
Mae’r cwrs yn gwrs dynodedig (gweler Pennod 1 o Ran 4).
Amod 2
Mae’n gwrs llawnamser.
Amod 3
Mae wedi ei ddarparu gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt.
Amod 4
Mae’r cwrs naill ai—
(a)yn arwain at gymhwyso yn—
(i)gweithiwr cymdeithasol,
(ii)meddyg,
(iii)deintydd,
(iv)milfeddyg, neu
(v)pensaer, neu
(b)yn gwrs pan fo o leiaf un flwyddyn academaidd yn un y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn gymwys mewn perthynas â hi i wneud cais am—
(i)bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,
ar yr amod bod y bwrsari neu’r dyfarndal tebyg neu’r lwfans wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Amod 5
Nid yw’r cwrs yn gwrs dysgu o bell (ond gweler paragraff 3(4)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)