Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddLL+C

4.—(1Pan fo myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys am fod un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraff (2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn unol â’r Atodlen hon mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod i’r digwyddiad ddigwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n [F1dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

[F2(aa)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn UE;

(d)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Yn is-baragraff (2) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“aelod o deulu”(“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2); (within the meaning given by paragraph 6(5) of Schedule 2);

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent worker”);

[F3“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”;

[F4“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);]

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn Atod. 5 para. 4(3) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 58(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)