YR ATODLENNI

ATODLEN 5Benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge

Cyfnod cymhwystraI15

1

Mae benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge ar gael mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd safonol o’r cwrs Oxbridge dynodedig ac mewn cysylltiad ag un flwyddyn academaidd o’r cwrs nad yw’n flwyddyn academaidd safonol.

2

Pan ganiateir i fyfyriwr Oxbridge cymwys astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs Oxbridge dynodedig dros ddwy flwyddyn academaidd neu ragor, at ddiben penderfynu a yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge ar gyfer y blynyddoedd hynny, mae’r gyntaf o’r blynyddoedd hynny o astudio i’w thrin yn flwyddyn academaidd safonol ac mae’r blynyddoedd canlynol o’r math hwnnw i’w trin yn flynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn academaidd safonol” yw blwyddyn academaidd o’r cwrs Oxbridge dynodedig y byddai person nad yw’n ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs ac sy’n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt ag y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn ymgymryd â hi.