Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 192 (Cy. 43)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

15 Chwefror 2018

Yn dod i rym

2 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 187(2)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016(2).

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2016

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2016, mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—

mae i “gwasanaeth cymorth cartref” (“domiciliary support service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(h) o’r Ddeddf a pharagraff 8 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 3(1) o Reoliadau 2017;;

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(3);.

Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2016

4.  Mae rheoliad 3 (pennu gweithwyr gofal cymdeithasol) o Reoliadau 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ar ddiwedd paragraff (2)(c), yn lle “.” rhodder “;”; a

(b)ar ôl paragraff (2)(c) mewnosoder—

(d)sydd—

(i)wedi eu cyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr), neu

(ii)wedi eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau,

gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i’r termau “cyflogai”, “cyflogaeth”(4) a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee”, “employment” a “worker” yn adran 230(1), (5) a (3) yn y drefn honno o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(5).

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Chwefror 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.

Mae adran 80(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad a bennir gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu disgrifiad ychwanegol o weithwyr gofal cymdeithasol y mae rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr mewn cysylltiad â hwy, sef y rheini sydd wedi eu cyflogi neu wedi eu cymryd ymlaen gan wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig i ddarparu gofal a chymorth i bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

Mae adran 230(5) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 hefyd yn diffinio’r term “employed” drwy gyfeirio at ystyr “employment”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources