Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

Deddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7)

53.  Yn adran 70(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” rhodder—

O ran “cartref gofal” (“care home”)—

(a)

mae iddo’r un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr, a

(b)

ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu;.