- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 oni bai bod mynegiad o’r mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â pharagraffau (2), (3) neu (4), fel y bônt yn gymwys, wedi ei ychwanegu at enw’r cynnyrch.
(2) Pan weithgynhyrchir cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 gan ddefnyddio un math o ffrwyth, rhaid ychwanegu at enw’r cynnyrch fynegiad o’r math o ffrwyth a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch.
(3) Pan weithgynhyrchir cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 o ddau fath o ffrwyth, rhaid ychwanegu at enw’r cynnyrch fynegiad o’r mathau hynny o ffrwythau yn nhrefn ddisgynnol pwysau deunyddiau crai’r ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch.
(4) Pan weithgynhyrchir cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 o dri neu ragor o fathau o ffrwyth, rhaid ychwanegu at enw’r cynnyrch—
(a)mynegiad o’r mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd yn nhrefn ddisgynnol pwysau deunyddiau crai’r ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch;
(b)y geiriau “mixed fruit” neu eiriau tebyg; neu
(c)nifer y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.
(5) Yn ogystal â’r geiriau sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff (4)(b), caniateir ychwanegu at enw’r cynnyrch y geiriau “ffrwythau cymysg” neu eiriau Cymraeg tebyg.
(6) Nid oes dim ym mharagraffau (4)(b) neu (5) yn atal ychwanegu’r geiriau gofynnol at enw’r cynnyrch mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: