Dull marcio neu labelu
5.—(1) Rhaid i’r manylion y mae’n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy yn rhinwedd rheoliad 4(1)(b) neu (c) (neu’r ddau) ymddangos wrth enw masnachol y cynnyrch.
(2) Pan fo cynhyrchion dynodedig sy’n pwyso llai nag 20 gram yr uned wedi eu pacio mewn deunydd pacio allanol, caiff y manylion sy’n ofynnol gan reoliad 4(1)(b) i (d) ymddangos ar y label neu ar y deunydd pacio allanol.