xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 33 (Cy. 9) (C. 4)

Trethi, Cymru

Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018

Gwnaed

11 Ionawr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 194(2) a (3) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 2018

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018—

(a)adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru);

(b)adran 26 (Siarter safonau a gwerthoedd);

(c)Rhan 4 (pwerau ymchwilio ACC), ac eithrio adrannau 82 (trosolwg o Ran 4) a 101(3) a (4) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig);

(d)Pennod 5 o Ran 5 (cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau);

(e)adran 154 (talu cosbau);

(f)adran 155 (gwahardd cosbi ddwywaith);

(g)adrannau 160 i 162 (darpariaeth mewn perthynas â llog);

(h)Rhan 7 (talu a gorfodi), ac eithrio adran 167 (ffioedd talu);

(i)Rhan 8 (adolygiadau ac apelau), ac eithrio adran 171 (trosolwg o Ran 8); a

(j)Rhan 9 (ymchwilio i droseddau).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018

3.  Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 i rym ar y dyddiad hwnnw.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud ag:

(a)talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru;

(b)y Siarter safonau a gwerthoedd;

(c)pwerau ymchwilio sifil Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”);

(d)cosbau sifil sy’n ymwneud ag ymchwiliadau;

(e)llog;

(f)talu a gorfodi;

(g)adolygiadau ac apelau; ac

(h)ymchwiliadau i droseddau gan ACC.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 ar y dyddiad hwnnw.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 2018 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 21(1)18 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 2218 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 2318 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 2718 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 2918 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adrannau 33 i 3518 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 6618 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 69(3) a (4)18 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 101(3) a (4)18 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 16318 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)
Adran 16718 Hydref 20172017/954 (Cy. 241) (C. 88)

Gweler hefyd adran 194(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 21 Ebrill 2016 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).