NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud ag:

(a)talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru;

(b)y Siarter safonau a gwerthoedd;

(c)pwerau ymchwilio sifil Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”);

(d)cosbau sifil sy’n ymwneud ag ymchwiliadau;

(e)llog;

(f)talu a gorfodi;

(g)adolygiadau ac apelau; ac

(h)ymchwiliadau i droseddau gan ACC.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 ar y dyddiad hwnnw.