Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod darpariaethau amrywiol yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (“Deddf 1984”) a Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (“Deddf 2001”) i’w cymhwyso i ymchwiliadau i droseddau a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”).

Mae rheoliad 3(1) yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, sy’n pennu’r darpariaethau yn Neddf 1984 sydd i’w cymhwyso i ymchwiliadau a gynhelir gan ACC, yn ddarostyngedig i addasiadau penodol. Y darpariaethau cymwys yn Neddf 1984 a gynhwysir yn yr Atodlen yw—

(a)pŵer i wneud cais am warant a chael gwarant gan ynad heddwch i awdurdodi mynediad i fangre a’i chwilio (adran 8 o Ddeddf 1984);

(b)pŵer i gael mynediad i ddeunydd eithriedig neu ddeunydd gweithdrefn arbennig (fel y diffinnir “excluded material” a “special procedure material” yn Rhan 2 o Ddeddf 1984), yn ddarostyngedig i gael gwarant gan farnwr yn unol â’r weithdrefn yn Atodlen 1 i Ddeddf 1984 (adran 9 o Ddeddf 1984);

(c)rhagofalon amrywiol mewn perthynas â chais am warant a gweithredu chwiliadau (adrannau 15 ac 16 o Ddeddf 1984);

(d)pŵer i ymafael mewn eitemau perthnasol y deuir o hyd iddynt yn ystod chwiliad (adran 19 o Ddeddf 1984);

(e)estyn y pwerau ymafael i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth a gynhwysir ar ffurf electronig gael ei chyflwyno yn ystod chwiliad (adran 20 o Ddeddf 1984);

(f)pŵer sy’n galluogi ACC i gopïo gwybodaeth yr ymafaelwyd ynddi yn ystod chwiliad, a hawliau cysylltiedig i berchnogion eiddo yr ymafaelir ynddo yn ystod chwiliad (adran 21 o Ddeddf 1984);

(g)pŵer i gadw unrhyw beth yr ymafaelir ynddo yn ystod chwiliad (adran 22 o Ddeddf 1984);

(h)gofyniad i ACC hysbysu person a gyfwelwyd mewn perthynas â throsedd yn ysgrifenedig pan benderfynir dod â’r ymchwiliad i ben (adran 60B o Ddeddf 1984); ac

(i)gofyniad i ACC rhoi sylw i’r codau ymarfer a ddyroddir o dan adran 66 o Ddeddf 1984 pan fo’n cynnal ymchwiliad perthnasol.

Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod y darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 2 o Ddeddf 2001 (sydd, ymysg pethau eraill, yn darparu ar gyfer pwerau ymafael ychwanegol) hefyd yn gymwys pan fo ACC yn cynnal ymchwiliad perthnasol.

Mae rheoliad 3(3) yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â chymhwyso darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001. Effaith y paragraff hwn yw darparu yn gyffredinol ar gyfer rhoi “WRA” yn lle “constable”, “police officer” a “the police” wrth gymhwyso darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001.

Mae rheoliad 3(4) yn darparu y bydd darpariaethau Deddf 1984 nad ydynt yn cael eu pennu yn yr Atodlen yn gymwys i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen. Er enghraifft, mae’r diffiniad o “excluded material” yn adran 11 o Ddeddf 1984 i fod yn gymwys er mwyn diffinio “excluded material” mewn perthynas â chwiliad a gynhelir gan ACC drwy ddibynnu ar warant a ddyroddir o dan baragraff 12 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984.

Mae rheoliad 4 yn darparu y caiff person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y swyddogaeth honno.

Mae rheoliad 5 yn darparu y caiff ACC chwilio person a ganfyddir mewn mangre sy’n destun chwiliad gan ACC, drwy ddibynnu ar warant a ddyroddir o dan adran 8 o Ddeddf 1984, neu baragraff 12 o Atodlen 1 iddi, ar yr amod bod gan ACC achos rhesymol i gredu bod y person yn meddu ar ddeunydd sy’n debygol o fod o werth sylweddol i’r ymchwiliad.

Mae rheoliad 6 yn addasu adran 16(3A) a (3B) o Ddeddf 1984 i’r graddau na chaiff person fynd i fangre na chwilio mangre nad yw wedi ei phennu mewn gwarant pob mangre, na mynd i fangre na chwilio mangre ar ail achlysur nac ar achlysur dilynol, onid yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan berson sydd ar Radd 7 yn y gwasanaeth sifil (neu radd gyfatebol) o leiaf.

Mae rheoliad 7 yn addasu adran 77(3) o Ddeddf 1984, sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymdrin â chyfaddefiadau gan berson sydd ag anabledd dysgu. Mae’r addasiad a wneir gan reoliad 7 yn sicrhau na chaiff “independent person” fod yn berson sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 8 yn darparu na chaiff y swyddogaethau a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ond cael eu harfer gan berson sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan ACC i gynnal ymchwiliadau perthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.