Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
22 Mawrth 218
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 124(2) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018—
(a)adran 88; a
(b)adran 89(2)(h)(ii) a (4).
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 124(2) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (“y Ddeddf”). Dyma’r Rheoliadau cyntaf sy’n dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o’r Ddeddf o ran Cymru.
Mae rheoliad 2 yn darparu y daw adrannau 88 a 89(2)(h)(ii) a (4) o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2018.