Prentisiaid
11.—(1) Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth—
(a)os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1), neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth; a
(b)os yw o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl cychwyn y gyflogaeth honno yn llai na 19 oed.
(2) Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(2) neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(3).
1973 p. 50. Diwygiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p. 19) ac adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19). Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
1995 p. 18. Diddymwyd adran 17B gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi. Mae’r diddymiad yn effeithiol at ddibenion penodol yn unol ag O.S. 2013/983, O.S. 2013/1511, O.S. 2013/2657, O.S. 2013/2846, O.S. 2014/209, O.S. 2014/1583, O.S. 2014/2321, O.S. 2014/3094, O.S. 2015/33, O.S. 2015/101, O.S. 2015/634, O.S. 2015/1537, O.S. 2015/1930, O.S. 2016/33 ac O.S. 2016/407.