25.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os terfynir naill ai contract gwasanaeth gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch neu os rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth i gael eu terfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr, hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—
(a)bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben;
(b)bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall; neu
(c)bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 21 yn cael ei ddihysbyddu.
(2) Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.