xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
32.—(1) Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 5 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.
(2) Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—
(a)i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod; a
(b)i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.