- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
40.—(1) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw—
(a)4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
(3) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—
(a)2 ddiwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
(5) At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (2) a (4), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 30 neu 31 (fel y bo’n briodol).
(6) Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (2) neu (4) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.
(7) Mewn amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: