RHAN 6Dirymu a darpariaeth drosiannol

Dirymu a darpariaeth drosiannol43.

(1)

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 201713 (“Gorchymyn 2017”) wedi ei ddirymu.

(2)

Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis ond nid fel gweithiwr hyblyg, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn 2017 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn parhau i fod wedi ei gyflogi ar y Radd honno neu fel prentis ac mae, o’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodir yn y Gorchymyn hwn.

(3)

Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn 2016, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.