RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi a chychwyn1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018 ac mae’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018.
Dehongli2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb unrhyw weithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—
- a
unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol;
- b
salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn;
- c
anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith;
- d
anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;
- e
amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch; neu
- f
amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,
- a
ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;
ystyr “amser gweithio” (“working time”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac mae’n cynnwys—
- a
unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol;
- b
unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith;
- c
unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg; a
- d
unrhyw gyfnod ychwanegol y mae’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i’w drin fel amser gweithio,
ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn;
- a
ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;
ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio heblaw unrhyw ddiwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—
- a
yn cymryd gwyliau blynyddol;
- b
yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth; neu
- c
yn cymryd absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu statudol;
- a
ystyr “goramser” (“overtime”) yw—
- a
mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
- i
yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;
- ii
yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth;
- iii
ar ŵyl gyhoeddus;
- iv
ar ddydd Sul; neu
- v
mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;
- i
- b
mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
- i
yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;
- ii
yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth; neu
- iii
ar ŵyl gyhoeddus;
- i
- a
ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, p’un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud neu beidio;
ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—
- a
pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn; a
- b
o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;
- a
ystyr “gwaith allbwn” (“output work”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;
ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;
ystyr “llety arall” (“other accommodation”) yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—
- a
sy’n addas i bobl fyw ynddo;
- b
sy’n ddiogel ac yn ddiddos;
- c
sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a
- d
sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 19923 fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo;
- a
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 19964;
mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;
ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gwasanaeth neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;
ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—
- a
aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio;
- b
aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys; ac
- c
aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys;
- a
ystyr “tŷ” (“house”) yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well ac mae’n cynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw.
2
Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—
a
y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu
b
sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 20065.
3
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19966.