xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 2(5)
1 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau |
Safon 118: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
2 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 119: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan. |
3 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau |
Safon 120: | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)— (a)nifer y cwynion a gawsoch yn y flwyddyn o dan sylw a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 115); (b)nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 116); (c)nifer (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 117) y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn— (i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd; (iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan. |
4 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 121: | Rhaid ichi ddarparu i Gomisiynydd y Gymraeg (os gofynnir ganddo) unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau llunio polisi neu’r safonau gweithredol yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
5 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 fel a ganlyn. |
6 | At ddiben safon 120, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
7 | At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon). |