
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015
39.—(1) Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11(4) (aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol) yn lle’r diffiniad o “darparwr gofal” (“care provider”) rhodder—
“ystyr “darparwr gofal” (“care provider”) yw—
(a)
person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a
(b)
person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn ystyr y Ddeddf honno);”.
(3) Yn rheoliad 19(2) (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun), yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—
“ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw man y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;”.
Back to top