xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
12 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 22(2) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 3) 2018.
2. 8 Mai 2018 yw’r diwrnod penodedig i baragraff 9(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(2) ddod i rym.
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
12 Ebrill 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“Deddf 2012”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai 8 Mai 2018 yw’r diwrnod penodedig i baragraff 9(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 2012 ddod i rym. Paragraff 9(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 2012 oedd yr unig ddarpariaeth o Ddeddf 2012 nad oedd eisoes mewn grym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2012 wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
adran 1 (trosolwg) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 2 (is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 3 (ystyr “awdurdod deddfu”) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 4 (dirymu gan awdurdod deddfu) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 5 (dirymu gan Weinidogion Cymru) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 6 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) a Rhan 1 o Atodlen 1 | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 7 (is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 8 (materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 9 (y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012) | 15 Awst 2014 | O.S. 2014/2121 (Cy. 207) |
adran 10 (tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 11 (is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 12(13) (y pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan Ddeddf 2012) | 15 Awst 2014 | O.S. 2014/2121 (Cy. 207) |
adran 12 (y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym a Rhan 2 o Atodlen 1 | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 13(3) (y pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig) | 15 Awst 2014 | O.S. 2014/2121 (Cy. 207) |
adran 13(4) (y pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o Ddeddf 2012, a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny) | 15 Awst 2014 | O.S. 2014/2121 (Cy. 207) |
adran 13 (swm cosb benodedig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 14 (y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 15 (y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 16 (y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012) | 15 Awst 2014 | O.S. 2014/2121 (Cy. 207) |
adran 17 (Swyddogion Cymorth Cymunedol etc) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 18 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 19 (tystiolaeth o is-ddeddfau) | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
adran 20 (diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 2 ond nid paragraff 9(4) o’r Atodlen honno | 31 Mawrth 2015 | O.S. 2015/1025 (Cy. 74) |
Gweler hefyd adran 22(1) o Ddeddf 2012 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 30 Tachwedd 2012 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2012 y Cydsyniad Brenhinol).
Diwygiwyd paragraff 9(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 gan adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4), a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi.