NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”).

Mae rheoliad 3(1) yn diwygio rheoliad 36 (effeithlonrwydd dŵr anheddau newydd) er mwyn cyflwyno gofyniad newydd sef pan fo annedd yn cael ei chodi, ni chaniateir i’r defnydd posibl o ddŵr dihalog gan bersonau sy’n meddiannu’r annedd fod yn fwy na 110 o litrau y person y dydd. Mae’r gofyniad presennol o 125 o litrau yn parhau pan fo newid defnydd sylweddol megis adeilad yn cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n cynnwys fflat, pan nad oedd o’r blaen yn y naill achos neu’r llall.

Mae rheoliad 3(3) yn ychwanegu paragraff G2A (effeithlonrwydd dŵr adeiladau newydd ac eithrio anheddau ac adeiladau gofal iechyd) i Ran G (glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr) o Atodlen 1 (gofynion mewn perthynas â gwaith adeiladu). Nid yw’r gofyniad newydd yn gymwys i anheddau nac adeiladau gofal iechyd.

Effaith rheoliad 4 yw dynodi rheoliadau 23 (gofynion ar gyfer adnewyddu neu ailosod elfennau thermol), 25B (gofynion bron di-ynni ar gyfer adeiladau newydd) a 26 (cyfraddau allyriadau CO2 ar gyfer adeiladau newydd) at ddibenion adran 35 o Ddeddf Adeiladu 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu) i’r graddau y mae’r rheoliadau hynny yn gymwys i adeiladau’r Goron neu i waith adeiladu a wnaed gan awdurdodau’r Goron neu y bwriedir ei wneud ganddynt.

Mae rheoliad 5 yn ychwanegu Rhan Q (diogelwch) at Atodlen 1. Mae’r gofyniad newydd hwn yn gymwys i godi anheddau yn unig.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Gwneir rhai mân ddiwygiadau drafftio a chanlyniadol yn ogystal.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ar www.llyw.cymru.