RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Adeiladau Ynni a Eithrir) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2018.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn mae i “adeiladau ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy buildings” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).