Darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig5

1

Yn rheoliad 3 (darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig)—

a

ym mharagraff (1)(d)(ii), yn lle “gofal seibiant” rhodder “seibiannau byr”; a

b

mae paragraff (2) wedi ei hepgor.

2

Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—

Gwasanaethau ar gyfer personau sydd y tu allan i’r ardal3A

1

Mae adran 14F o’r Ddeddf (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) yn gymwys i awdurdod lleol o ran y personau canlynol sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol—

a

plentyn perthnasol sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn union cyn i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud;

b

gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig i blentyn o’r fath;

c

plentyn gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig a grybwyllwyd yn is-baragraff (b).

2

Ond mae adran 14F yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig ac eithrio mewn achos pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol o dan Ran 3 ac y cafodd y penderfyniad i ddarparu’r cymorth hwnnw ei wneud cyn i’r gorchymyn gael ei wneud.

3

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau cymorth gwarchodaeth arbennig i berson sy’n dod o fewn y personau hynny a restrir yn rheoliad 3A(1)(a) i (c), heb fod yn hwyrach na thri mis cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—

a

adolygu’r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig a ddarperir i’r person hwnnw;

b

hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw yn byw ynddo am unrhyw angen parhaus am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig; ac

c

atgyfeirio’r person hwnnw i wybodaeth, cyngor a chymorth lleol perthnasol.

4

Nid yw unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i bersonau sydd y tu allan i’w ardal pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol wneud hynny.