Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
17 Mai 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 3) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 31 Mai 2018—
(a)Rhan 8 (darparu toiledau); a
(b)Atodlen 4 (darparu toiledau: diwygiadau canlyniadol).
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â darparu toiledau ar 31 Mai 2018.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 3 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 94 | 1 Chwefror 2018 | 2018/1 (Cy. 1) |
Rhan 5 | 1 Chwefror 2018 | 2018/1 (Cy. 1) |
Adran 119 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).