- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
22 Mai 2018
Yn dod i rym
30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 bellach wedi’u breinio ynddynt(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2018.
2.—(1) Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “BPEX”;
(b)hepgorer y diffiniad o “MLCSL”; ac
(c)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “AHDB” (“AHDB”) yw y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth;”.
(3) Ym mhob man lle y mae’n ymddangos, yn lle “BPEX” rhodder “AHDB”.
(4) Ym mhob man lle y mae’n ymddangos, yn lle “MLCSL” rhodder “AHDB”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2830) (Cy. 303).
Mae’n dileu’r diffiniadau o MLCSL (Meat and Livestock Commercial Services Limited) a BPEX (i bob pwrpas Gweithrediaeth Moch Prydain) o erthygl 2 ac yn mewnosod diffiniad newydd o AHDB (y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth). Caiff pob cyfeiriad dilynol at MLCSL a BPEX eu disodli gan AHDB.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn gan fod y diwygiadau yn rhai technegol eu natur.
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion, “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau un o Weinidogion y Goron, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), ac Atodlen 11 iddi, yn breinio’r swyddogaethau hyn yng Ngweinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: