2018 Rhif 632 (Cy. 118)
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 bellach wedi’u breinio ynddynt1 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny:
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2018.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2018.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20112
1
Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20112 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2 (dehongli)—
a
hepgorer y diffiniad o “BPEX”;
b
hepgorer y diffiniad o “MLCSL”; ac
c
yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “AHDB” (“AHDB”) yw y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth;
3
Ym mhob man lle y mae’n ymddangos, yn lle “BPEX” rhodder “AHDB”.
4
Ym mhob man lle y mae’n ymddangos, yn lle “MLCSL” rhodder “AHDB”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)