Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11 o Reoliadau 2011;

ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC, ac Atodiad II iddi, ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(1), ac a weithredir gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau 2011;

ystyr “llwyth” (“consignment”) yw nifer o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrir yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(2);

ystyr “Rheoliadau 1964” (“the 1964 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964(3);

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992(4);

ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995(5);

ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(6);

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(7);

ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru; ac

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.

(1)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74, fel y’u diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn Rhif 2011/879/EU (OJ Rhif L 345, 23.12.2011, t. 105).

(2)

1966 p. 36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919, a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824, a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen iddo.

(3)

O.S. 1964/1172, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 1995/2478, y ceir diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2008/1040 (Cy. 110); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/398 (Cy. 48) ac O.S. 2013/1241 (Cy. 133).

(7)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.