xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Mehefin 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu benthyciadau at radd ddoethurol ôl-raddedig i fyfyrwyr mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018, pa un a yw unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a gyllidir yn gyhoeddus” a “cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig” (“postgraduate doctoral degree loan”) yw benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan Ran 4;
ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(1) neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(2);
mae “carcharor” (“prisoner”) yn cynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;
ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—
sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2018;
sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig;
sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall yn y sefydliad carcharu i astudio’r cwrs dynodedig; a
y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 8 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;
ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd ddoethurol ôl-raddedig, ond nid yw cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth uwch na chwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth drwy waith cyhoeddedig yn gwrs;
ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodir gan reoliad 4(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(5);
ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—
at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad;
ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau; neu
ar sail achlysurol yn ystod yr wythnos;
ystyr “cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth drwy waith cyhoeddedig” (“course which leads to a doctorate by publication”) yw cwrs sy’n arwain at radd ddoethurol ôl-raddedig a ddyfernir i berson (“P”) ar sail traethawd ymchwil ar ffurf papurau ymchwil cyhoeddedig cysylltiedig, pa un a yw’r awdurdod academaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i P—
cofrestru ar y cwrs;
ymgymryd â rhaglen astudio benodol; neu
sefyll arholiad terfynol;
ystyr “cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth uwch” (“course which leads to a higher doctorate”) yw cwrs sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir i berson (“P”)—
ar lefel academaidd sy’n uwch na gradd ddoethurol ôl-raddedig; a
ar gyfer rhagoriaeth o ran cyfraniad P at ddatblygu gwyddoniaeth neu ddysgu;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(3) ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr “cyfnod arferol y cofrestriad” (“ordinary period of registration”) yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau cwrs;
mae i “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5 mewn perthynas â myfyriwr cymwys;
ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—
cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol, gan gynnwys ymchwil, sy’n gysylltiedig â’r cwrs mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;
cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);
ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil a ganlyn—
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau;
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol;
y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;
Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol;
y Cyngor Ymchwil Feddygol;
Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;
y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;
ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y pennir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;
ystyr “Cynllun KESS 2” (“KESS 2 Scheme”) yw Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 a gyllidir, yn rhannol, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop(4);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(5), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(6), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(7) a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(8) a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;
mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(9);
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(10) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(11);
ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a
sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;
mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;
ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—
wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu’n rhesymegol â hwy; a
yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau dilysrwydd y cyfathrebiad neu’r data, cyfanrwydd y cyfathrebiad neu’r data, neu’r ddau;
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—
sydd—
wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i’w gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu
heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;
y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(12)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i A gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;
ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;
ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron y Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(13);
ystyr “Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017” (“the 2017 Master’s Degree Loans Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(14);
ystyr “Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017” (“the 2017 Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(15);
ystyr “Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018” (“the 2018 Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(16);
ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei gyllido’n gyhoeddus;
ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—
(a)os oes gan y myfyriwr cymwys gymhwyster addysg uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio; a
(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn radd ddoethurol ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.
(3) Penderfynir ar flwyddyn academaidd, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—
nodi’r cyfnod yng Ngholofn 2 o’r Tabl y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo mewn gwirionedd;
y flwyddyn academaidd yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir yn y cofnod yng Ngholofn 1 o’r Tabl sy’n cyfateb i’r cyfnod a nodir yng Ngholofn 2.
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “blwyddyn academaidd” yn gyfeiriad at y flwyddyn y penderfynir arni yn unol â’r paragraff hwn.
Colofn 1 Dyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd at ddibenion y Rheoliadau hyn | Colofn 2 Y cyfnod y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo |
---|---|
1 Medi | Ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr |
1 Ionawr | Ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill |
1 Ebrill | Ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf |
1 Gorffennaf | Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst |
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
1968 p. 46; diwygiwyd adran 63(6) gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20.
OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77-123.
Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi ei sefydlu o dan Erthygl 162 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46) ac a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1158, Atodlen 4, paragraff 5(2)(e).
O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5, Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (G.I.) 1998 Rhif 306.
O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gorchmn. 9171.
Gorchmn. 3906 (allan o brint).
2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21 a Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9, Rhan 4.
O.S. 2017/523 (Cy. 109), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/712 (Cy. 169) ac O.S. 2018/277 (Cy. 53).
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42).