RHAN 4Y BENTHYCIAD

Swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig13

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff person wneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o hyd at £25,000 tuag at gostau ymgymryd â chwrs dynodedig.

2

Yn ddarostyngedig i reoliad 17(5), pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs, a

b

£25,000.

3

Ac eithrio pan fo rheoliad 17(5) a (6) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

a

nad yw cyfanred y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y gwneir cais amdano yn fwy na’r symiau cymwysadwy a nodir ym mharagraffau (1) a (2);

b

bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 11(2).

4

Os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 10 fod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael yn unol â rheoliad 14.

Talu benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig14

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael o dan y Rheoliadau hyn—

a

naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau; a

b

ar unrhyw adegau, ac mewn unrhyw fodd, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.

3

Os yw’r gofyniad a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.

4

Yn achos carcharor cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, y mae carcharor cymwys yn cymhwyso i’w gael, i’r sefydliad y mae’r carcharor cymwys yn atebol i wneud taliad o’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig iddo neu i unrhyw drydydd parti y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol at ddiben sicrhau y telir y ffioedd hynny i’r sefydliad perthnasol.

5

O ran Gweinidogion Cymru—

a

ni chânt wneud taliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sy’n fwy na £10,609 mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys;

b

rhaid iddynt, wrth benderfynu ar swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael, ddiystyru unrhyw flynyddoedd academaidd a gwblhawyd.

6

Yn y rheoliad hwn, ystyr “blynyddoedd academaidd a gwblhawyd” yw blynyddoedd academaidd y cwrs dynodedig a gwblhawyd gan y myfyriwr cymwys cyn i Weinidogion Cymru gael cais y myfyriwr o dan reoliad 9(1).

7

Rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, ddarparu i Weinidogion Cymru y dyddiad—

a

y mae cwrs dynodedig myfyriwr cymwys yn dechrau arno; a

b

y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw yn dod i ben arno.

8

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys oni bai eu bod wedi cael, mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, gan yr awdurdod academaidd perthnasol gadarnhad (ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru)—

a

nad yw’r myfyriwr, mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—

i

gan Gyngor Ymchwil;

ii

gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig;

b

bod y myfyriwr yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu’n ymgymryd ag ef, neu ei fod yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw neu’n parhau i ymgymryd ag ef (fel sy’n gymwys);

c

bod o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig;

d

bod yr awdurdod academaidd yn ystyried y bydd yn bosibl i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs;

e

na roddwyd i’r myfyriwr neu na thalwyd iddo, mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.

9

Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd ddarparu’r cadarnhad a ddisgrifir ym mharagraff (8)(a) os nad yw’n gallu gwneud hynny.

10

Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (11) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys (“A”), rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad—

a

hysbysu Gweinidogion Cymru; a

b

darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad y mae’r awdurdod academaidd yn meddwl y gall fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

11

Y digwyddiadau yw—

a

bod yr awdurdod academaidd yn dod yn ymwybodol bod A, mewn cysylltiad â’i gwrs dynodedig, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—

i

gan Gyngor Ymchwil;

ii

gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig;

b

bod A yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig, neu’n cael ei atal dros dro neu ei ddiarddel ohono, neu os yw fel arall yn absennol;

c

nad yw’r awdurdod academaidd yn ystyried mwyach ei bod yn bosibl i A gwblhau ei gwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw;

d

bod A yn cyflwyno ei draethawd ymchwil cychwynnol mewn cysylltiad â’i gwrs dynodedig cyn i gyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw ddod i ben; ac

e

bod yr awdurdod academaidd yn dod yn ymwybodol i unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2 gael ei roi i A neu ei dalu iddo, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig A.

12

At ddibenion paragraffau (8)(d) ac (11)(c), rhaid i’r awdurdod academaidd roi sylw i—

a

unrhyw gynnydd yn y dwysedd astudio a fyddai’n ofynnol er mwyn i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs o fewn cyfnod arferol y cofrestriad;

b

unrhyw rannau o’r cwrs y bu’n ofynnol i’r myfyriwr eu hailadrodd.

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig15

1

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig fod rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

2

Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.

Absenoldeb o gwrs neu anallu i’w gwblhau16

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 14(10) neu baragraff 2(a) i (c) o Atodlen 2 am fyfyriwr cymwys (“A”) ynglŷn â’r canlynol—

a

absenoldeb A o’i gwrs dynodedig; neu

b

anallu A i gwblhau ei gwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw,

ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

2

Caniateir gwneud taliad pellach er gwaethaf hysbysiad o’r fath os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliad yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.

3

Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo—

a

Gweinidogion Cymru wedi cael hysbysiad mewn perthynas â myfyriwr cymwys (“A”) sy’n dod o fewn paragraff (1)(a); a

b

A yn ailgychwyn ei gwrs.

4

Rhaid i A—

a

hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi ailgychwyn ei gwrs; a

b

darparu manylion i Weinidogion Cymru ynghylch hyd ac achos absenoldeb blaenorol A o’r cwrs hwnnw.

5

Rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru os, yn dilyn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan reoliad 14(10) mewn cysylltiad â rheoliad 14(11)(c), nad yw’n ystyried mwyach nad yw’r myfyriwr yn gallu cwblhau’r cwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw.

6

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan baragraffau (4) neu (5), rhaid iddynt ailgychwyn talu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â rheoliad 14 os, ym marn Gweinidogion Cymru, ydynt yn ystyried y byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau.

Effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys17

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

addasu taliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn y dyfodol er mwyn i gyfanswm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a ddyfernir beidio â bod yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 13(2); a

b

talu unrhyw swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, yn unol â rheoliad 14.

3

Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys pan fo carcharor cymwys (“A”) sy’n cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, neu randaliadau o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn y dyfodol, os oes rhai, yn unol â rheoliad 14.

5

Pan fyddai A wedi cymhwyso i gael swm uwch o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oni fyddai A wedi bod yn garcharor cymwys, caiff A, yn ddarostyngedig i baragraff (6), wneud cais am i swm y benthyciad gael ei gynyddu.

6

Yr uchafswm cynnydd ym menthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig A y caiff A wneud cais amdano o dan baragraff (5) yw’r swm a gyfrifir drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—

(F-R)M×Tmath

pan fo—

  • F yn gyfwerth â’r swm y byddai A wedi cymhwyso i’w gael pe na bai A wedi bod yn garcharor cymwys;

  • R yn gyfwerth â’r swm y mae A yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;

  • T yn nifer y diwrnodau o gyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs sy’n weddill pan yw A yn peidio â bod yn garcharor cymwys gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae A yn peidio â bod yn garcharor cymwys; ac

  • M yn gyfanswm nifer y diwrnodau y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs yn para.

Gordaliadau o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig18

1

Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oddi wrth—

a

y sefydliad neu’r trydydd parti a gafodd arian y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig pan wnaed taliad i’r sefydliad hwnnw neu’r trydydd parti hwnnw; neu

b

y myfyriwr a gafodd y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

2

Rhaid i fyfyriwr, os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr neu a delir mewn cysylltiad â’r myfyriwr, sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y benthyciad y mae hawlogaeth gan y myfyriwr i’w gael.

3

Caniateir adennill gordaliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oddi wrth fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

a

drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw swm o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sy’n weddill i’w dalu i’r myfyriwr neu mewn cysylltiad ag ef;

b

drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant neu fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

c

drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

d

drwy gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.