11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais o dan reoliad 9 gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd y cwrs y mae cyfnod arferol y cofrestriad yn dod i ben ynddi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais i ddiwygio swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan reoliad 13(3) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd y cwrs y mae cyfnod arferol y cofrestriad yn dod i ben ynddi.
(3) Nid yw paragraffau (1) neu (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, na ddylai’r terfyn amser fod yn gymwys ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.