RHAN 1CYFFREDINOL

DehongliI12

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “a gyllidir yn gyhoeddus” a “cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny;

    ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

    ystyr “benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig” (“postgraduate doctoral degree loan”) yw benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan Ran 4;

    ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 19683 neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 19724;

    mae “carcharor” (“prisoner”) yn cynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

    ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

    1. a

      sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2018;

    2. b

      sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig;

    3. c

      sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall yn y sefydliad carcharu i astudio’r cwrs dynodedig; a

    4. d

      y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 8 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;

    ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

    ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd ddoethurol ôl-raddedig, ond nid yw cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth uwch na chwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth drwy waith cyhoeddedig yn gwrs;

    ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodir gan reoliad 4(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(5);

    ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

    1. a

      at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad;

    2. b

      ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau; neu

    3. c

      ar sail achlysurol yn ystod yr wythnos;

    ystyr “cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth drwy waith cyhoeddedig” (“course which leads to a doctorate by publication”) yw cwrs sy’n arwain at radd ddoethurol ôl-raddedig a ddyfernir i berson (“P”) ar sail traethawd ymchwil ar ffurf papurau ymchwil cyhoeddedig cysylltiedig, pa un a yw’r awdurdod academaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i P—

    1. a

      cofrestru ar y cwrs;

    2. b

      ymgymryd â rhaglen astudio benodol; neu

    3. c

      sefyll arholiad terfynol;

    ystyr “cwrs sy’n arwain at ddoethuriaeth uwch” (“course which leads to a higher doctorate”) yw cwrs sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir i berson (“P”)—

    1. a

      ar lefel academaidd sy’n uwch na gradd ddoethurol ôl-raddedig; a

    2. b

      ar gyfer rhagoriaeth o ran cyfraniad P at ddatblygu gwyddoniaeth neu ddysgu;

    ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor5 ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

    ystyr “cyfnod arferol y cofrestriad” (“ordinary period of registration”) yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau cwrs;

    mae i “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5 mewn perthynas â myfyriwr cymwys;

    ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

    1. a

      cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol, gan gynnwys ymchwil, sy’n gysylltiedig â’r cwrs mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

    2. b

      cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

    ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil a ganlyn—

    1. a

      Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau;

    2. b

      Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol;

    3. c

      y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;

    4. d

      Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol;

    5. e

      y Cyngor Ymchwil Feddygol;

    6. f

      Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;

    7. g

      y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

    ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y pennir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;

    ystyr “Cynllun KESS 2” (“KESS 2 Scheme”) yw Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 a gyllidir, yn rhannol, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop6;

    ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

    ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 19907, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 19908, Deddf Addysg (Yr Alban) 19809 a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199810 a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;

    mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 201511;

    ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 195112 fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 196713;

    ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

    1. a

      sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a

    2. b

      sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

    ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;

    mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

    ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

    ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

    1. a

      wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu’n rhesymegol â hwy; a

    2. b

      yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau dilysrwydd y cyfathrebiad neu’r data, cyfanrwydd y cyfathrebiad neu’r data, neu’r ddau;

    mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

    ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—

    1. a

      sydd—

      1. i

        wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i’w gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu

      2. ii

        heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

    2. b

      y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

    3. c

      nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 200214) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a

    4. d

      sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i A gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

    ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

    1. a

      y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

    2. b

      sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;

    ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron y Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 197115;

    ystyr “Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017” (“the 2017 Master’s Degree Loans Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201716;

    ystyr “Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017” (“the 2017 Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 201717;

    ystyr “Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018” (“the 2018 Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 201818;

    ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei gyllido’n gyhoeddus;

    ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

2

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—

a

os oes gan y myfyriwr cymwys gymhwyster addysg uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio; a

b

os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn radd ddoethurol ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

3

Penderfynir ar flwyddyn academaidd, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—

  • nodi’r cyfnod yng Ngholofn 2 o’r Tabl y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo mewn gwirionedd;

  • y flwyddyn academaidd yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir yn y cofnod yng Ngholofn 1 o’r Tabl sy’n cyfateb i’r cyfnod a nodir yng Ngholofn 2.

  • Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “blwyddyn academaidd” yn gyfeiriad at y flwyddyn y penderfynir arni yn unol â’r paragraff hwn.

    Tabl

    Colofn 1

    Dyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd at ddibenion y Rheoliadau hyn

    Colofn 2

    Y cyfnod y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo

    1 Medi

    Ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr

    1 Ionawr

    Ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill

    1 Ebrill

    Ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf

    1 Gorffennaf

    Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst