xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
Rheoliadau 16 a 19
1. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a darparu’r manylion i Weinidogion Cymru os bydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd—LL+C
(a)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cael ei atal dros dro ohono, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
(b)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
(c)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn absennol o’r cwrs;
(d)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(e)bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor y ceisydd neu’r myfyriwr yn newid;
(f)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn dod yn garcharor neu’n garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor neu’n garcharor cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei llofnodi gan y person sy’n ei darparu, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni’r gofyniad hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)