Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

Rhagolygol

3.  Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei llofnodi gan y person sy’n ei darparu, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni’r gofyniad hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 25.6.2018, gweler rhl. 1(2)