2018 Rhif 721 (Cy. 140)
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas ag—
mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu3;
atal, lleihau a rheoli gwastraff4.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 19902
Yn adran 62A(2)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19905 (rhestrau o wastraff sy’n arddangos nodweddion peryglus), ar ôl “Directive 2008/98/EC” mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20053
Yn lle rheoliad 2(1)(a) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20056 (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr Gwastraff), rhodder—
a
“ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997;
Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 20074
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 20077 (dehongli a hysbysiadau), yn y diffiniad o “the Waste Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 20115
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 20118 (dehongli), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder, “as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 20166
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 20169 (dehongli: Cyfarwyddebau), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Dirymiadau7
Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
a
rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 201510;
b
rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 201611.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)