YR ATODLENSancsiynau Sifil

RHAN 3Ymgymeriadau Gorfodaeth

Ymgymeriadau gorfodaeth

17.—(1Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (sef “ymgymeriad gorfodaeth”) a roddir gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2).

(2At ddibenion y Rhan hon, mae “ymgymeriad gorfodaeth” yn ymgymeriad ysgrifenedig i gymryd y camau hynny a bennir yn yr ymgymeriad o fewn y cyfnod hwnnw a bennir.

Cynnwys ymgymeriad gorfodaeth

18.—(1Rhaid i ymgymeriad gorfodaeth bennu—

(a)cam gweithredu i sicrhau nad yw’r drosedd yn digwydd eto;

(b)cam gweithredu (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno; neu

(c)cam gweithredu a fydd yn sicrhau budd amgylcheddol sy’n cyfateb i adfer yr hyn a ddifrodwyd neu a ddinistriwyd gan gyflawni’r drosedd, neu’r hyn sy’n debygol o fod wedi ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan gyflawni’r drosedd.

(2Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu.

(3Rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon;

(b)telerau’r ymgymeriad; ac

(c)gwybodaeth ynghylch sut a phryd yr ystyrir bod y person sy’n rhoi’r ymgymeriad hwnnw wedi cyflawni’r ymgymeriad.

(4Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodaeth, neu ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodaeth

19.  Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodaeth, yna, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—

(a)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw ar unrhyw adeg o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud ag ef; a

(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred honno.

Cyflawni ymgymeriad gorfodaeth

20.—(1Os yw’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

(3Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif o’r fath.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif

21.  Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y seiliau bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn

22.—(1Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodaeth i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 20 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.

Peidio â chydymffurfio ag ymrwymiad gorfodaeth

23.—(1Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodaeth, caiff y rheoleiddiwr naill ai—

(a)cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad stop; neu

(b)dwyn achos troseddol.

(2Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.

(3Caniateir cychwyn achos troseddol am drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad gorfodaeth yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw am fethiant y person hwnnw i wneud hynny.