YR ATODLENSancsiynau Sifil
RHAN 1Cosbau Ariannol Amrywiadwy a Hysbysiadau Cydymffurfio
Gosod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio1
1
Mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1) caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
a
gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o’r swm hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”); neu
b
gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”).
2
Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y person wedi cyflawni’r drosedd.
3
Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
4
Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 3 neu 10(1)(a) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £5000.
5
Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 10(1)(b) neu 10(1)(c) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £20,000.
6
Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd honno.
Hysbysiad o fwriad2
1
Pan fo’r rheoleiddiwr yn bwriadu cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
2
Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
a
y seiliau dros yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig neu’r gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig;
b
gofynion yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu; ac
c
gwybodaeth ynghylch—
i
yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
ii
o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol amrywiadwy neu’r hysbysiad cydymffurfio.
3
Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r bwriad i osod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
Ymgymeriadau trydydd parti3
1
Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran cam gweithredu i’w gymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).
2
Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
Hysbysiad terfynol4
1
Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i—
a
gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt; neu
b
gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i’w osod o dan y Rhan hon.
2
Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 5, yn achos cosb ariannol amrywiadwy, neu baragraff 6, yn achos hysbysiad cydymffurfio.
3
Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
4
Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—
a
pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio; a
b
swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.
Cynnwys hysbysiad terfynol:cosb ariannol amrywiadwy5
Rhaid i hysbysiad terfynol am gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth ynghylch—
a
y seiliau dros osod y gosb;
b
y swm sydd i’w dalu;
c
sut y gellir talu;
d
o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
e
hawliau i apelio, ac
f
canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Cynnwys hysbysiad terfynol:hysbysiad cydymffurfio6
Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth ynghylch—
a
y seiliau dros osod yr hysbysiad;
b
pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid eu cwblhau;
c
hawliau i apelio; a
d
canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol7
1
Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
2
Y seiliau ar gyfer apelio yw—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
d
yn achos hysbysiad cydymffurfio, bod natur y gofyniad yn afresymol;
e
bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
f
unrhyw reswm arall.
Achosion troseddol8
1
Os—
a
cyflwynir cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i unrhyw berson, neu
b
derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,
ni chaiff y person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy, yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
2
Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—
a
pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson;
b
pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw; ac
c
pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
RHAN 2Hysbysiadau Stop
Hysbysiadau stop9
1
Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).
2
“Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
3
Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—
a
bod y person yn ymgymryd â’r gweithgarwch;
b
bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac
c
bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.
4
Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—
a
bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch;
b
y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac
c
y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.
5
Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).
Cynnwys hysbysiad stop10
Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—
a
y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad;
b
y camau y mae’n rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;
c
hawliau i apelio; a
d
canlyniadau peidio â chydymffurfio.
Apelau yn erbyn hysbysiadau stop11
1
Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
2
Y seiliau ar gyfer apelio yw—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod y penderfyniad yn afresymol;
d
bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
e
nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
f
na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
g
unrhyw reswm arall.
Tystysgrifau cwblhau12
1
Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
2
Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
3
Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.
4
Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a chyflwyno hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.
Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau13
Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau bod y penderfyniad—
a
yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
yn anghywir mewn cyfraith;
c
yn annheg neu’n afresymol;
d
yn anghywir am unrhyw reswm arall.
Digollediad14
Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am y golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os—
a
caiff hysbysiad stop ei dynnu yn ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
b
yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu
c
yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.
Apêl yn erbyn penderfyniad digollediad15
Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad—
a
ar y seiliau bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
b
ar y seiliau bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir;
c
am unrhyw reswm arall.
Trosedd16
1
Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—
a
o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 12 mis, neu’r ddau; neu
b
o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.
2
Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at 12 mis i’w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.
RHAN 3Ymgymeriadau Gorfodaeth
Ymgymeriadau gorfodaeth17
1
Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (sef “ymgymeriad gorfodaeth”) a roddir gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2).
2
At ddibenion y Rhan hon, mae “ymgymeriad gorfodaeth” yn ymgymeriad ysgrifenedig i gymryd y camau hynny a bennir yn yr ymgymeriad o fewn y cyfnod hwnnw a bennir.
Cynnwys ymgymeriad gorfodaeth18
1
Rhaid i ymgymeriad gorfodaeth bennu—
a
cam gweithredu i sicrhau nad yw’r drosedd yn digwydd eto;
b
cam gweithredu (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno; neu
c
cam gweithredu a fydd yn sicrhau budd amgylcheddol sy’n cyfateb i adfer yr hyn a ddifrodwyd neu a ddinistriwyd gan gyflawni’r drosedd, neu’r hyn sy’n debygol o fod wedi ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan gyflawni’r drosedd.
2
Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu.
3
Rhaid iddo gynnwys—
a
datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon;
b
telerau’r ymgymeriad; ac
c
gwybodaeth ynghylch sut a phryd yr ystyrir bod y person sy’n rhoi’r ymgymeriad hwnnw wedi cyflawni’r ymgymeriad.
4
Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodaeth, neu ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
Derbyn ymgymeriad gorfodaeth19
Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodaeth, yna, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—
a
ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw ar unrhyw adeg o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud ag ef; a
b
ni chaiff y rheoleiddiwr osod cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred honno.
Cyflawni ymgymeriad gorfodaeth20
1
Os yw’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.
2
Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.
3
Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif o’r fath.
4
Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.
Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif21
Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y seiliau bod y penderfyniad—
a
yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
yn anghywir mewn cyfraith;
c
yn annheg neu’n afresymol;
d
yn anghywir am unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn22
1
Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodaeth i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
2
Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 20 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.
Peidio â chydymffurfio ag ymrwymiad gorfodaeth23
1
Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodaeth, caiff y rheoleiddiwr naill ai—
a
cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad stop; neu
b
dwyn achos troseddol.
2
Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.
3
Caniateir cychwyn achos troseddol am drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad gorfodaeth yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw am fethiant y person hwnnw i wneud hynny.
RHAN 4Cosbau am beidio â chydymffurfio
Cosbau am beidio â chydymffurfio24
1
Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (sef “cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth pa un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.
2
Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
3
Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.
4
Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth ynghylch—
a
y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio;
b
y swm sydd i’w dalu;
c
sut y mae’n rhaid talu;
d
o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
e
yr hawl i apelio;
f
canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig; ac
g
o dan ba amgylchiadau y caiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
5
Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
Apelau yn erbyn cosbau am beidio â chydymffurfio25
1
Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
2
Y seiliau ar gyfer apelio yw—
a
bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm arall;
d
bod swm y gosb yn afresymol;
e
unrhyw reswm arall.
RHAN 5Gweinyddu ac Apelau
Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad26
Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
a
tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad sy’n gosod cosb am beidio â chydymffurfio, neu leihau’r swm a bennir yn yr hysbysiad; neu
b
tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir, er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.
Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth27
1
Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (sef “hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y cyflwynwyd hysbysiad perthnasol iddo sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau yr aed iddynt gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod y gofyniad a osodwyd gan yr hysbysiad perthnasol hyd at yr adeg y’i gosodwyd.
2
Yn is-baragraff (1), ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop.
3
Mae “costau” yn cynnwys yn benodol—
a
costau ymchwilio;
b
costau gweinyddu;
c
costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
4
Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
a
sut y mae’n rhaid talu;
b
y swm y mae’n ofynnol ei dalu ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
c
y seiliau dros osod yr hysbysiad;
d
yr hawl i apelio; ac
e
canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.
5
Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
6
Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill cost gorfodaeth28
Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio—
a
yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;
b
yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny;
c
am unrhyw reswm arall.
Y pŵer i adennill taliadau29
Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan yr Atodlen hon fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
Apelau: darpariaethau cyffredinol30
1
Mae apêl o dan baragraff 7, 11, 13, 15, 21, 25 neu 28 o’r Atodlen hon yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
2
Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
3
Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad o dan yr Atodlen hon—
a
tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;
b
cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;
c
amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;
d
cymryd y camau hynny y gallai’r rheoleiddiwr fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad; neu
e
anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.