Rheoliadau 2, 7, 13(2) a 14(1)

YR ATODLENSancsiynau Sifil

RHAN 1Cosbau Ariannol Amrywiadwy a Hysbysiadau Cydymffurfio

Gosod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio

1.—(1Mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1) caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—

(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o’r swm hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”); neu

(b)gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”).

(2Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

(4Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 3 neu 10(1)(a) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £5000.

(5Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 10(1)(b) neu 10(1)(c) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £20,000.

(6Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd honno.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn bwriadu cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig neu’r gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig;

(b)gofynion yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu; ac

(c)gwybodaeth ynghylch—

(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol amrywiadwy neu’r hysbysiad cydymffurfio.

(3Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r bwriad i osod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.

Ymgymeriadau trydydd parti

3.—(1Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran cam gweithredu i’w gymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).

(2Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymgymeriad trydydd parti o’r fath.

Hysbysiad terfynol

4.—(1Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i—

(a)gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt; neu

(b)gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i’w osod o dan y Rhan hon.

(2Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 5, yn achos cosb ariannol amrywiadwy, neu baragraff 6, yn achos hysbysiad cydymffurfio.

(3Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—

(a)pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio; a

(b)swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.

Cynnwys hysbysiad terfynol: cosb ariannol amrywiadwy

5.  Rhaid i hysbysiad terfynol am gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)y seiliau dros osod y gosb;

(b)y swm sydd i’w dalu;

(c)sut y gellir talu;

(d)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;

(e)hawliau i apelio, ac

(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cynnwys hysbysiad terfynol: hysbysiad cydymffurfio

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;

(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid eu cwblhau;

(c)hawliau i apelio; a

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

7.—(1Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(f)unrhyw reswm arall.

Achosion troseddol

8.—(1Os—

(a)cyflwynir cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i unrhyw berson, neu

(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,

ni chaiff y person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy, yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).

(2Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—

(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson;

(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw; ac

(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.

RHAN 2Hysbysiadau Stop

Hysbysiadau stop

9.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).

(2“Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—

(a)bod y person yn ymgymryd â’r gweithgarwch;

(b)bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac

(c)bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.

(4Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—

(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch;

(b)y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac

(c)y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.

(5Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).

Cynnwys hysbysiad stop

10.  Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad;

(b)y camau y mae’n rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;

(c)hawliau i apelio; a

(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.

Apelau yn erbyn hysbysiadau stop

11.—(1Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(g)unrhyw reswm arall.

Tystysgrifau cwblhau

12.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).

(2Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

(3Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a chyflwyno hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau

13.  Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Digollediad

14.  Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am y golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os—

(a)caiff hysbysiad stop ei dynnu yn ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;

(b)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu

(c)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

Apêl yn erbyn penderfyniad digollediad

15.  Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad—

(a)ar y seiliau bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;

(b)ar y seiliau bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir;

(c)am unrhyw reswm arall.

Trosedd

16.—(1Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 12 mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.

(2Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at 12 mis i’w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.

RHAN 3Ymgymeriadau Gorfodaeth

Ymgymeriadau gorfodaeth

17.—(1Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (sef “ymgymeriad gorfodaeth”) a roddir gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2).

(2At ddibenion y Rhan hon, mae “ymgymeriad gorfodaeth” yn ymgymeriad ysgrifenedig i gymryd y camau hynny a bennir yn yr ymgymeriad o fewn y cyfnod hwnnw a bennir.

Cynnwys ymgymeriad gorfodaeth

18.—(1Rhaid i ymgymeriad gorfodaeth bennu—

(a)cam gweithredu i sicrhau nad yw’r drosedd yn digwydd eto;

(b)cam gweithredu (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno; neu

(c)cam gweithredu a fydd yn sicrhau budd amgylcheddol sy’n cyfateb i adfer yr hyn a ddifrodwyd neu a ddinistriwyd gan gyflawni’r drosedd, neu’r hyn sy’n debygol o fod wedi ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan gyflawni’r drosedd.

(2Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu.

(3Rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon;

(b)telerau’r ymgymeriad; ac

(c)gwybodaeth ynghylch sut a phryd yr ystyrir bod y person sy’n rhoi’r ymgymeriad hwnnw wedi cyflawni’r ymgymeriad.

(4Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodaeth, neu ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodaeth

19.  Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodaeth, yna, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—

(a)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw ar unrhyw adeg o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud ag ef; a

(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred honno.

Cyflawni ymgymeriad gorfodaeth

20.—(1Os yw’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

(3Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif o’r fath.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

Apelau yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif

21.  Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y seiliau bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn

22.—(1Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodaeth i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 20 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.

Peidio â chydymffurfio ag ymrwymiad gorfodaeth

23.—(1Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodaeth, caiff y rheoleiddiwr naill ai—

(a)cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad stop; neu

(b)dwyn achos troseddol.

(2Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.

(3Caniateir cychwyn achos troseddol am drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad gorfodaeth yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw am fethiant y person hwnnw i wneud hynny.

RHAN 4Cosbau am beidio â chydymffurfio

Cosbau am beidio â chydymffurfio

24.—(1Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (sef “cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth pa un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.

(3Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.

(4Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio;

(b)y swm sydd i’w dalu;

(c)sut y mae’n rhaid talu;

(d)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;

(e)yr hawl i apelio;

(f)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig; ac

(g)o dan ba amgylchiadau y caiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.

(5Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

Apelau yn erbyn cosbau am beidio â chydymffurfio

25.—(1Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm arall;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)unrhyw reswm arall.

RHAN 5Gweinyddu ac Apelau

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad

26.  Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad sy’n gosod cosb am beidio â chydymffurfio, neu leihau’r swm a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir, er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

27.—(1Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (sef “hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y cyflwynwyd hysbysiad perthnasol iddo sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau yr aed iddynt gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod y gofyniad a osodwyd gan yr hysbysiad perthnasol hyd at yr adeg y’i gosodwyd.

(2Yn is-baragraff (1), ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop.

(3Mae “costau” yn cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(4Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—

(a)sut y mae’n rhaid talu;

(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;

(c)y seiliau dros osod yr hysbysiad;

(d)yr hawl i apelio; ac

(e)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.

(5Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.

(6Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.

Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill cost gorfodaeth

28.  Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;

(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny;

(c)am unrhyw reswm arall.

Y pŵer i adennill taliadau

29.  Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan yr Atodlen hon fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Apelau: darpariaethau cyffredinol

30.—(1Mae apêl o dan baragraff 7, 11, 13, 15, 21, 25 neu 28 o’r Atodlen hon yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

(2Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

(3Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad o dan yr Atodlen hon—

(a)tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;

(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(d)cymryd y camau hynny y gallai’r rheoleiddiwr fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad; neu

(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.