Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Awst 20183

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Awst 2018—

a

adrannau 3 i 5 (landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.);

b

adrannau 6 i 9 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig);

c

adran 10 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag ymchwiliadau etc.);

d

adrannau 11 a 12 (hysbysiadau gorfodi a chosbau);

e

adrannau 13 i 15 (gwarediadau tir);

f

adran 16 ac Atodlen 1 (cyfyngiad ar aelodaeth awdurdodau lleol o fwrdd a hawliau pleidleisio); ac

g

adran 17 ac Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).