Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
2018 Rhif 806 (Cy. 162)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan—

(a)
ac eithrio rheoliadau 4, 26 a 29, i’r graddau y mae rheoliad 29 fel y’i darllenir gydag Atodlen 3 yn dirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)1;
(b)
o ran rheoliadau 8(4)(b), 11(6)(a), 13(2), 21 a 26, baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 19722;
(c)
o ran rheoliadau 4, 26 a 29, i’r graddau y mae rheoliad 29 fel y’i darllenir gydag Atodlen 3 yn dirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000, adrannau 16(1)(a) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19903.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas â—

(a)
rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau4;
(b)
mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt5;
(c)
mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd6;
(d)
mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd7.

Fel y nodir uchod, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at yr Atodiadau penodedig i’r offerynnau a ganlyn gan yr UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

(a)
Atodiad I neu II i Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd8;
(b)
yr Atodiadau i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd9;
(c)
Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd (Ail-lunio)10;
(d)
Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd11;
(e)
yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/201412.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn unol ag adran 48(4A)13 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd14.