NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/32 (Cy. 5)) i ddiwygio’r diffiniad o Reoliad (EC) 852/2004 ar hylendid deunyddiau bwyd (OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheoliad hwnnw gael ei ddarllen gyda’r Rheoliad Comisiwn newydd (EU) Rhif 2017/2158 sy’n sefydlu mesurau lliniaru a lefelau meincnodi ar gyfer lleihau presenoldeb acrylamid mewn bwyd (OJ Rhif L 304, 21.11.2017, t. 24).

Mae rheoliad 25 yn diwygio Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2750) (Cy. 267)) i weithredu Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 1040/2014 sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol a fwriedir i bobl eu hyfed i addasu ei Hatodiad I i gynnydd technegol (OJ Rhif L 288, 2.10.2014, t. 1). Mae hyn yn caniatáu i broteinau planhigion o wenith, pys a thatws gael eu defnyddio i dryloywi cynhyrchion y mae Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 yn gymwys iddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau amrywiol eraill i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid, yn enwedig gan ddiwygio hen gyfeiriadau at ddeddfwriaeth ddomestig ac at offerynnau gan yr UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.