Search Legislation

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

11.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Penderfyniad 2006/766””—

(a)hepgorer ““Rheoliad 809/2011” (“Regulation 809/2011”),”;

(b)yn lle “, “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”), “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”)” rhodder “a “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”)”.

(3Yn lle rheoliad 32 rhodder—

Cyfyngiad ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl

32.  Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.

(4Hepgorer rheoliad 33.

(5Yn Atodlen 1—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad 852/2004” yn lle “a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor” rhodder “, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor(2) ac ynghyd â Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2017/2158 sy’n sefydlu mesurau lliniaru a lefelau meincnodi ar gyfer lleihau presenoldeb acrylamid mewn bwyd(3)”;

(b)yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004”, yn lle “, Rheoliad 1020/2008 a Rheoliad 1079/2013” rhodder “a Rheoliad 1020/2008”;

(c)yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004”, yn lle “, Rheoliad 1021/2008 a Rheoliad 1079/2013” rhodder “a Rheoliad 1021/2008”;

(d)yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, yn lle “, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 702/2013” rhodder “a Rheoliad 669/2009”;

(e)yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2073/2005” rhodder—

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(4) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1495 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 o ran Campylobacter mewn carcasau brwyliaid(5);;

(f)yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2074/2005” rhodder—

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddiddymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(6), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1973(7);;

(g)hepgorer y diffiniadau o “Rheoliad 809/2011”, “Rheoliad 28/2012”, “Rheoliad 702/2013” a “Rheoliad 1079/2013”.

(6Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 2(2), yn lle “Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014” rhodder “Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014(8) fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(b)yn lle paragraff 14 rhodder—

14.  At ddibenion yr Atodlen hon bydd unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau a brasterau hylifol dros y môr(9) neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr(10) yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Rheoliad hwnnw neu’r Gyfarwyddeb honno.

(7Yn Atodlen 3A, yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned”, yn lle’r geiriau o “Rheoliad (EC) Rhif 999/2001” hyd at “a roddwyd i’r Comisiwn” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(11), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/893(12)”.

(8Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (dd), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1906/90” rhodder “Rheoliad y Comisiwn 543/2008 a Rheoliad 1308/2013”;

(ii)yn is-baragraff (e), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1907/90” rhodder “Rheoliad y Comisiwn 589/2008 a Rheoliad 1308/2013”;

(b)ym mharagraff 8—

(i)hepgorer y diffiniadau o “Rheoliad y Cyngor 1906/90” a “Rheoliad y Cyngor 1907/90”;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

(aa)“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 543/2008” (“Commission Regulation 543/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod(13);”;

(bb)“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 589/2008” (“Commission Regulation 589/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer wyau(14);”;

(cc)“ystyr “Rheoliad 1308/2013” (“Regulation 1308/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac sy’n diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007(15);”.

(9Hepgorer Atodlen 7.

(1)

O.S. 2006/31 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/893 (Cy. 92), O.S. 2012/1765 (Cy. 225), O.S. 2013/3007 (Cy. 298), O.S. 2013/3049 (Cy. 308) ac O.S. 2014/1858 (Cy. 192); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 68, 12.3.2013, t. 24.

(3)

OJ Rhif L 304, 21.11.2017, t. 24.

(4)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 1 fel y’i cywirwyd gan y Corigenda a nodir yn OJ Rhif L 278, 10.10.2006, t. 32, OJ Rhif L 283, 14.10.2006, t. 62, OJ Rhif L 68, 13.3.2015, t. 90, OJ Rhif L 195, 20.7.2016, t. 82 ac OJ Rhif L 195, 20.7.2016, t. 83.

(5)

OJ Rhif L 218, 24.8.2017, t. 1.

(6)

OJ Rhif 338, 22.12.2005, t. 27, fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm a nodir yn OJ Rhif L 214, 9.8.2013, t. 11.

(7)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/1973 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion pysgodfeydd a ddaliwyd gan gychod sy’n cyhwfan baner Aelod Wladwriaeth ac a gyflwynir i’r Undeb wedi iddynt gael eu trosglwyddo mewn trydydd gwledydd ac yn sefydlu tystysgrif iechyd enghreifftiol ar gyfer y cynhyrchion hynny (OJ Rhif L 281, 31.10.2017, t. 21).

(8)

OJ Rhif L 160, 29.5.2014, t. 14, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2016/238 (OJ Rhif L 45, 20.2.2016, t. 1).

(9)

OJ Rhif L 160, 29.5.2014, t. 14, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2016/238 (OJ Rhif L 45, 20.2.2016, t. 1).

(10)

OJ Rhif L 140, 12.5.1998, t. 10. Mae cyfeiriadau yn y Gyfarwyddeb hon at Gyfarwyddeb 93/43/EEC sydd wedi ei diddymu i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliad (EC) 852/2004 ar hylendid deunyddiau bwyd (OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1) (gweler Erthygl 17(2) o Reoliad (EC) 852/2004).

(11)

OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t. 1.

(12)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/893 sy’n diwygio Atodiadau I a IV i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac Atodiadau X, XIV a XV i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 o ran y darpariaethau ar brotein anifeiliaid wedi ei brosesu (OJ Rhif L 138, 25.05.2017, t. 92). Mae rhannau o’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliad Comisiwn hwn yn gymwys o 1 Ionawr 2018, sydd ar ôl y dyddiad y mae’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1972 diweddarach (OJ Rhif L 281, 31.10.2017, t. 14) yn gymwys.

(13)

OJ Rhif L 157, 17.6.2008, t. 46, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 519/2013 (OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 74). Mae cyfeiriadau yn Rheoliad y Comisiwn 543/2008 at Reoliad y Cyngor 1234/2007 sydd wedi ei ddiddymu i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliad 1308/2013 (gweler Erthygl 230(2) o Reoliad 1308/2013).

(14)

OJ Rhif L 163, 24.6.2008, t. 6, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/2168 (OJ Rhif L 306, 22.11.2017, t. 6). Mae cyfeiriadau yn Rheoliad y Comisiwn 589/2008 at Reoliad y Cyngor 1234/2007 sydd wedi ei ddiddymu i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliad 1308/2013 (gweler Erthygl 230(2) o Reoliad 1308/2013).

(15)

)OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2017/2393 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 350, 29.12.2017, t. 15).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources