RHAN 2Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â bwyd a bwyd anifeiliaid

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

22.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 13, yn lle “Yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad” rhodder “Ac eithrio yn rheoliad 14(1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1”.

(3Yn rheoliad 14(1), yn lle “Erthygl 22(4) a (5) ac Erthygl 23,” rhodder “Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1282/2011(2), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1183/2012(3), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 202/2014(4), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/174(5), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2016/1416(6), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752(7), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/79(8) ac Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831(9),”.

(4Yn rheoliad 16(2), yn lle “Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol), ni” rhodder “Ni”.

(5Hepgorer rheoliadau 28 a 29.

(1)

O.S. 2012/2705 (Cy. 291), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1282/2011 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 328, 10.12.2011, t. 22). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon cyn 1 Ionawr 2012 ac nad oeddent yn cydymffurfio â Rheoliad 1282/2011 (a ddiwygiodd Atodiad I i Reoliad 10/2011) barhau i gael eu rhoi ar y farchnad tan 1 Ionawr 2013 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(3)

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1183/2012 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 338, 12.12.2012, t. 11). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon cyn 1 Ionawr 2013 ac nad oeddent yn cydymffurfio â Rheoliad 1183/2012 (a ddiwygiodd Atodiad I i Reoliad 10/2011) barhau i gael eu rhoi ar y farchnad tan 1 Ionawr 2014 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(4)

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 202/2014 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 62, 4.3.2014, t. 13). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon cyn 24 Mawrth 2014 ac nad oeddent yn cydymffurfio â Rheoliad 202/2014 (a ddiwygiodd Atodiad I i Reoliad 10/2011) barhau i gael eu rhoi ar y farchnad tan 24 Mawrth 2015 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(5)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2015/174 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 30, 6.2.2015, t. 2). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig sy’n cydymffurfio â gofynion Rheoliad 10/2011 fel yr oedd yn gymwys cyn 26 Chwefror 2015 gael eu rhoi ar y farchnad tan 26 Chwefror 2016 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(6)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2016/1416 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 230, 25.8.2016, t. 22). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig sy’n cydymffurfio â Rheoliad 10/2011 fel yr oedd yn gymwys cyn i Reoliad 2016/1416 ddod i rym ar 14 Medi 2016 gael eu rhoi ar y farchnad tan 14 Medi 2017 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(7)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/752 sy’n diwygio ac yn cywiro Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 113, 29.4.2017, t. 18). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig sy’n cydymffurfio â Rheoliad 10/2011 fel yr oedd yn gymwys cyn i Reoliad 2017/752 ddod i rym ar 19 Mai 2017 gael eu rhoi ar y farchnad tan 19 Mai 2018 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(8)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/79 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 14, 19.1.2018, t. 31). Mae Erthygl 2 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig sy’n cydymffurfio â Rheoliad 10/2011 fel yr oedd yn gymwys cyn i Reoliad 2018/79 ddod i rym ar 8 Chwefror 2018 gael eu rhoi ar y farchnad tan 8 Chwefror 2019 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(9)

Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/831 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L 140, 6.6.2018, t. 35). Mae Erthygl 6 yn darparu y caiff deunyddiau ac eitemau plastig sy’n cydymffurfio â Rheoliad 10/2011 fel yr oedd yn gymwys cyn i Reoliad 2018/831 ddod i rym ar 26 Mehefin 2018 gael eu rhoi ar y farchnad tan 26 Mehefin 2019 ac y cânt aros ar y farchnad ar ôl y dyddiad hwnnw nes i’r stociau gael eu disbyddu.