25.—(1) Mae Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 22.
(3) Yn Atodlen 7, yn Rhan 1—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “sudd” rhodder “gynnyrch”;
(b)ym mharagraff 2, yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “suddoedd” rhodder “cynhyrchion”.
(4) Yn Atodlen 9, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—
“10. Proteinau planhigion i’w tryloywi o—
(a)gwenith,
(b)pys,
(c)tatws, neu
(d)unrhyw gyfuniad ohonynt.”
O.S. 2013/2750 (Cy. 267), y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.