Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

3.  Yn rheoliad 46(3)(c), ar ôl “incwm aelwyd” mewnosoder “sy’n fwy na £18,370”.

4.  Yn lle rheoliad 56 rhodder—

Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig

56.(1) Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm—

(a)y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a

(b)y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.

Cam 2

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 3

Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 3

Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018Byw gartref£7,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,000

Cam 4

Pa un bynnag yw’r mwyaf o—

(a)y swm a nodir yng Ngham 3, neu

(b)symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,

yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.

Cam 5

Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.

Cam 6

Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3) Yn Nhabl 8A—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8A

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 3

Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000

(4) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.

5.  Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), ar y diwedd mewnosoder—

(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.

6.  Ar ôl rheoliad 58 mewnosoder—

Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig

58A.(1) Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.

Tabl 10A
Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddSwm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Cam 3

Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.

7.  Yn rheoliad 81(2) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a

8.  Yn rheoliad 93 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carchar), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

9.  Yn rheoliad 94 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldeb), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.

10.  Yn rheoliad 95 (taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources