RHAN 2DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20186
Ar ôl rheoliad 58 mewnosoder—
Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig58A
1
Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
2
Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Cam 1
Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.
Cam 2
Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.
Tabl 10A
Colofn 1
Colofn 2
Blwyddyn academaidd
Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018
£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Cam 3
Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.
Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
3
Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.