xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(2At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(3At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(1).

(1)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn penderfynir ar y swm yr ystyrir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly’r swm yr ystyrir ei fod yn dal yn daladwy yn unol â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470). Gweler yn benodol reoliadau 17, 29, 44 a 76.