2018 Rhif 818 (Cy. 166)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2.

Enwi a chychwyn

1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2018.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso

2.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2018/2019.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Dehongli

3.

Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2018/2019 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20173 neu o dan Ran 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20184 mewn cysylltiad â chwrs llawnamser;

ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;

ystyr “Blwyddyn Academaidd 2018/2019” (“Academic Year 2018/2019”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 20085;
ystyr “Dyddiad Ad-dalu” (“Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 19986);

mae i “Dyddiad Bodloni” (“Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;

mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 19987 neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac

mae i “Swm Penodedig” (“Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Y cymhwyster ar gyfer dileu

4.

Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Yr Amgylchiadau

5.

Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw bod Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar y Dyddiad Ad-dalu—

(a)

nad yw’r benthyciwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)

nad oes gan y benthyciwr gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath; ac

(c)

nad yw’r benthyciwr wedi cael unrhyw o’i atebolrwydd i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 20108, Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 20119, Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201210, Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201311, Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201412, Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201513, Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201614, neu Reoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201715.
Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Y Swm Penodedig

6.

Y Swm Penodedig yw’r swm lleiaf o’r canlynol—

(a)

£1,500; neu

(b)

yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.

Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

7.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(2)

At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(3)

At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 199816.
Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Dileu

8.

O dan yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.

Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

9.

Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5 heb ei fodloni neu heb eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y maent yn ystyried y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni (“y Dyddiad Bodloni”).

Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2018, gweler rhl. 1(2)

Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawnamser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2018/2019.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.